EIN STORI
Darganfod Taith Meicrolysiau Y Graves a Micro Acres Cymru hyd yma
Fe ddaethum ar draws “Meicrolysiau” am y tro cyntaf ar ddamwain, ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y bydysawd yn estyn llaw atom, a’n harwain i gyfeiriad busnes teuluol newydd, newid deiet a ffordd o fyw mewn cyfnod lle’r oeddem ei angen fwyaf.
​Cafodd Chris, 'yr un golygus' (o’i gyfarfod fe wnewch chi ddeall ei synnwyr digfifwch!), diagnosis o ffurf o gyflwr niwrolegol prin, spino cerebellar 14, i.e. 'Ataxia'. Roedd yn edrych am ffordd mwy naturiol a maethlon i wella ei les, deiet a chyfleon gwaith. Doedd patrwm shifft 12 awr, gan gynnwys gweithio drwy’r nos, ddim yn helpu ei iechyd a gwellhad. Roedd yn chwilio am ysbrydoliaeth i wella’i sefyllfa. Fel teulu, dysgodd y pandemig fwy i ni, pwysigrwydd ein gilydd, ein hamser, ein lles, pwysigrwydd prynu’n lleol a gwella’r daoini naturiol yr oeddem yn fwyta.
Gyda dawn a chariad Chris at arddio, tyfu llysiau a ffrwythau yn yr ardd, trodd y cyfle newydd yma i greu cynnyrch ffres 365 diwrnod y flwyddyn mewn amgylchedd wedi ei reoli, heb ddefnyddio phlaladdwyr, yn sialens hyfryd. Gyda hinsawdd Cymru, ymddangosai yn ateb a chyfle perffaith.
Ffactor arall ar aelwyd y Graves’ oedd eu bod yn fwytawyr ffysi, yn enwedig gydag unrhywbeth ‘gwrydd’ a ‘iach’. Roedd y diffyg fitaminau a maeth yn ein deiet yn boen meddwl. Gyda’r meicro lysiau, chi’n bwyta llawer llai ac mae’r gwead yn fwy cytbwys, sy’n eich galluogi i fwyta ystod ehangach o lysiau a pherlysiau. Mae hefyd yn haws ‘cuddio’ y llysiau o gymharu a llond plat o’r llysiau y neu llawn dŵf. Mae meicrolysiau yn haws I’w bwyta I blant ac oedolion sydd a problem efo prydau o’r fath.
Felly yn barod amdani, dyma Chris yn dechrau treialu ac arbrofi gyda phridd a hadau amrywiol. Arweiniodd hyn yn gyflym at ddatblgyu adeilad “fferm”, wedi ei adeiladu â llaw gan Chris, o fewn ein garej. Ni’n caru mynd i’n ‘fferm’ yn y garej yn ddyddiol i weld datblygiad ein meicrolysiau. Ni’n dal i wenu wrth ddweud ‘ffwrdd â ni i’r fferm’.
​
Mae tyfu meicrolysiau yn llesol o’i hau a medi, ac yn blasu’n dda hefyd. Roedd yr egin bach yma yn newid ein bywydau a rydyn ni’n ddiolchgar iawn am hynny.
Yna, dyma ni’n dechrau cynnig samplau i deulu a ffrindiau i ‘flasu’ a chynnig barn. Roedd yr ymateb a sylwadau mor bositif redden nhw wedi’u rhyfeddu gan y cynnyrch.
Ehangwyd yr ystod cynnyrch i gynnwys blodau bwytadwy a madarch arbennigol. Mae ein fferm drefol yn parhau i arloesi a rydyn ni wastad yn chwilio am gyfleon a chydweithrediadau creadigol.
​
Yn Dilyn hanes BBC Wales News Live story, cawsom gynnig i helpu tyfu ac ehangu, diolch i Martyn, perchennog Cenin. Rydyn ni’n hynod gyffrous i fod yn ehangu i uned bwrpasol, heb Martyn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.
​Felly mae’r daith yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid preifat, cogyddion, cwmniau arlwyo, deli’s a chaffis. Gallwch ein canfod yn Urban Market yn lleol hefyd, felly cadwch i’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein fferm fertigol drefol wedi rhoi’r gallu i ni I greu busnes teuluol sy’n gwella ein lles, ffisioleg, a chyfleon trwy gyflenwi cynnyrch ffres, lleol, maethlon a blasus i’n hardal leol. Ry’n ni ar ein hennill!
​
Oddiwrth y Graves'
X